
Mae Dyffryn Dyfodol yn cydweithio â cymunedau, sefydliadau a phobl greadigol i archwilio pob math o bethau gan ddefnyddio dulliau sydd yn ymholi ac yn gadael i bethau amlygu eu hunain ….
Gweledigaeth Dyffryn Dyfodol yw bod gan bobl y pŵer i wneud newidiadau cadarnhaol i’w cymunedau. Ein cenhadaeth yw dod â phobl ynghyd i adeiladu pethau cadarnhaol ar y cyd gyda chreadigrwydd, ysbryd ymholiad a charedigrwydd i gymunedau a’r blaned.
Rydym yn gweithio ar y cyd ag ystod eang (ac weithiau’n annisgwyl) o bartneriaid, cymunedau, pobl greadigol a sefydliadau, gyda chreadigrwydd a chydweithio fel y gwreiddiau i wneud i bethau ddigwydd ac i wneud pethau’n wahanol. Rydym wrth ein bodd yn peidio â gwybod beth fydd yn dod i’r amlwg, peidio â chael yr atebion, peidio â phenderfynu ar ran eraill, rhannu gwneud penderfyniadau ag eraill, cwestiynu’r ffyrdd arferol o wneud pethau a gwneud pethau’n rhagweithiol a dysgu gyda’n gilydd drwy gydol y broses. Rydym yn creu fframweithiau i eraill ffynnu a bod yn greadigol, meddwl am syniadau a ffyrdd newydd o weithio sy’n addas i gyd-destunau penodol – lle, pobl, diwylliannau ac amser.
Cefndir
Dechreuodd Dyffryn Dyfodol fel prosiect ymchwil a datblygu yn 2021 – prosiect partneriaeth rhwng Cartrefi Conwy, Cyfoeth Naturiol Cymru a Ffiwsar yn cydweithio â phobl greadigol a chymunedau yn archwilio pa fathau o ddyfodol y mae pobl eisiau ei weld. Tua diwedd y prosiect Ymchwil a Datblygu, fe wnaethom sefydlu Dyffryn Dyfodol fel Cwmni Buddiant Cymunedol (CIC).
Pobol
Mae Dyffryn Dyfodol yn gasgliad o wahanol bobl sy’n ffurfio timau ar gyfer prosiectau penodol. Mae yna ambell un ohonom sy’n sicrhau bod pethau’n ticio’n araf dros amser, yn bennaf Katie Trent ac Iwan Williams. Mae eraill yn ymuno â ni ar gyfer gweithgareddau neu brosiectau penodol, ac rydyn ni wrth ein bodd â’r amrywiaeth yma yn yr hyn rydyn ni’n ei wneud a gyda phwy rydyn ni’n gwneud pethau.

Mae Lindsey yn arbenigo mewn dod â gwahanol safbwyntiau ynghyd – dynol a ‘mwy na dynol’ – i arbrofi ac archwilio pethau gyda’i gilydd. Bellach yn artist llawn amser, dechreuodd 34 mlynedd yn ôl fel hwylusydd proffesiynol – gan ddylunio a rhedeg gweithgareddau ymgysylltu cymunedol, datrys gwrthdaro a deialogau ar gyfer datblygu cynaliadwy yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol. Mae hi wrth ei bodd â chwyn.

Mae gan Katie dros ddeng mlynedd ar hugain o brofiad yn y sectorau creadigol a’r amgylchedd. Mae hyn yn cynnwys rheoli digwyddiadau, cynhyrchu a darparu hyfforddiant a chydlynu. Ei hoff anifail yw’r draenog.

Mae Iwan wedi bod yn gweithio yn y celfyddydau ers dros 25 mlynedd ac ar hyn o bryd mae’n galw ei hun yn gynhyrchydd creadigol oherwydd ei fod yn cynnwys popeth sydd ei angen i wneud i bethau ddigwydd. Ei anifail dewisiol ydi’r gath cyffredin.
