Mae Gofod Glas yn gweithio efo cymunedau, pobl greadigol, ymchwilwyr, unigolion a sefydliadau i:
- Archwilio sut mae dŵr croyw yn siapio ein diwylliant, ein hamgylchedd, a’n bywyd bob dydd
- Arwain ar gydweithio rhwng gwyddoniaeth, celf, a phrofiad bywyd.
- Dysgu gyda’n gilydd, gan greu cronfa wybodaeth sy’n perthyn i bawb.
- Ysbrydoli pobl i weithredu, fel y gallwn fyw’n well gyda’n hecosystem dŵr croyw ac archwilio sut all ein dyfroedd fod yn lân ac yn iach.
